*English Version Coming 2023*
Mae Richard Holt yn wyneb cyfarwydd yn dilyn llwyddiant ei gyfresi Yr Academi Felys ac Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C, ond doedd gan y bachgen o Fôn ddim bwriad o gwbl o fod yn gogydd nes iddo ddigwydd cyfarfod y chef enwog Marco Pierre White ar y stryd yng Nghaerdydd. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach roedd yn gweithio mewn cegin... a dyna ddechrau antur fwyaf ei fywyd.
Dyma hanes ei gefndir a'i yrfa - o straen gweithio yng ngheginau gwyllt Llundain i'r sialens o redeg melin wynt unigryw.